Rhif y ddeiseb: P-06-1352

 

Teitl y ddeiseb: Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad o'r diwedd na ddylai trydedd bont dros y Fenai gael ei hadeiladu oherwydd pryderon ynghylch newid hinsawdd. Er ein bod i gyd yn deall ac yn gwerthfawrogi’r materion ynghylch yr hinsawdd, mae’r penderfyniad hwn yn ergyd drom i drigolion Ynys Môn ac i unrhyw un sy’n cymudo’n rheolaidd dros y Fenai.

Mae trydedd bont dros y Fenai wedi bod yn gynnig prosiect ers blynyddoedd lawer yn y gobaith y byddai’n cael ei hadeiladu o’r diwedd ar ôl i ganlyniad ymgynghoriad ar y cynlluniau gael ei gyhoeddi yn 2018. Fodd bynnag, yn 2021, cafodd y prosiect hwn (fel prosiectau ffyrdd eraill yng Nghymru) ei rewi er mwyn i’r Panel Adolygu Ffyrdd graffu arno.

Cafwyd llawer o ddadleuon ynghylch gwydnwch, yn fwyaf diweddar pan gafodd Pont y Borth ei chau am dri mis. Dangosodd hynny faint o hunllef yw croesi Pont Britannia oherwydd y cynnydd yn y traffig, a phe bai’n rhaid i’r bont honno gau am gyfnod, byddai Pont y Borth yn sicr yn methu â delio â'r cynnydd mewn traffig.

Gwnaeth yr adolygiad hyd yn oed ddweud y byddai cefnogi’r drydedd groesfan yn gwella diogelwch, gwydnwch a theithio llesol, ond serch hynny daeth i’r casgliad na ddylai’r prosiect fynd yn ei flaen, sy’n gwneud y penderfyniad yn fwy dryslyd fyth.

Dylid cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai, gan y gall gwneud hynny fod yn gatalydd gwych i brosiectau sy’n llesol i’r hinsawdd yn y dyfodol.


1.        Cefndir

Mae’r pontydd dros y Fenai yn seilwaith o bwys rhyngwladol - rhan o bont dir y DU sy'n cysylltu Iwerddon ag Ewrop. Mae Pont Britannia yr A55 yn cludo traffig y ffordd a’r rheilffordd, a hi yw’r unig ran o lwybr yr A55 sy’n ffordd unffrwd. Mae Pont Menai yn darparu cyswllt arall rhwng y tir mawr ac Ynys Môn.

Mae cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai wedi cael eu trafod ers 2007 ac ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar nifer o opsiynau rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Mawrth 2018. Ym mis Hydref 2018 cyhoeddodd ei opsiwn a ffefrir am drydedd groesfan dros y Fenai.

Ym mis Rhagfyr 2022, nododd Cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymruddyddiad dechrau o 2027 a dyddiad cwblhau amcangyfrifedig o 2029/30 ar gyfer Prosiect y 3edd bont dros y Fenai.

Yr adolygiad ffyrdd

Ym mis Mehefin 2021 cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai panel adolygu ffyrdd yn cael ei sefydlu i adolygu buddsoddiadau ffyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai pob cynllun ffordd newydd yn cael ei atal tra bod y cynlluniau presennol yn cael eu hadolygu, ac eithrio mewn achosion “lle mae peiriannau cloddio yn y ddaear ar hyn o bryd”.

Cyhoeddodd y panel ei adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2023 a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion penodol i'r cynllun. Argymhellodd y panel na ddylai’r drydedd bont dros y Fenai fynd yn ei blaen. Pan gafodd ei holi ynghylch argymhelliad y panel yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

… Ar hyn o bryd, mae hwn yn gynllun gwerth £400 miliwn nad oes gennym ni mo'r cyllid ar ei gyfer. Felly, ni waeth beth yw'r argymhelliad yn yr adolygiad, pwynt braidd yn academaidd yw hwn ar hyn o bryd o ystyried cyflwr ein cyllidebau ni oddi wrth Lywodraeth y DU.

Mewn ymateb i ganfyddiadau'r panel, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi ffyrdd newydd a'i Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (NTDP) sy'n nodi'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu.

Er gwaethaf argymhelliad y panel, mae'r NTDP yn cynnwys camau i "ddatblygu opsiynau er mwyn sicrhau cadernid y groesfan dros Afon Menai [mewn ffordd] sy'n cefnogi newid dulliau teithio” ac yn dweud bod Llywodraeth Cymru “wedi gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wneud argymhellion ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hyn”.

Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2022 i wneud argymhellion ar greu system drafnidiaeth integredig ar draws Gogledd Cymru. Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan yr Arglwydd Burns, a fu hefyd yn cadeirio Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a aeth ati i ystyried dewisiadau amgen i ffordd liniaru'r M4. 

Fel yr amlinellwyd, yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymestyn cylch gorchwyl y Comisiwn i ystyried opsiynau ar gyfer Menai.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad interim ym mis Mehefin, a disgwylir ei adroddiad terfynol yn yr hydref. Mae Atodiad 1 o'r adroddiad interim yn canolbwyntio ar Fenai ac yn nodi:

… Ar hyn o bryd, ac yn unol â’n dull o wneud i’r seilwaith sydd ar gael yn barod weithio’n well, barn y Comisiwn yw y gellir gwneud y pontydd presennol yn fwy cadarn, ac rydym yn edrych ar opsiynau ar sut i wneud hyn.

Cau Pont Menai

Caeodd y bont ar 21 Hydref 2022 oherwydd pryderon am ddiogelwch. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Hydref. Eglurodd fod dadansoddiad technegol yn dilyn Prif Adroddiad Arolygu yn 2019 wedi nodi problemau posibl gyda'r hongwyr. Nododd modelu dilynol 'risgiau difrifol' a chaewyd y bont. Cododd hyn amheuaeth am wydnwch y bont, yn enwedig pe bai angen cau Pont Britannia oherwydd gwyntoedd cryfion.

Ailagorodd y bont ym mis Chwefror 2023. 

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd rhaglen arall o waith ar y bont. Bydd y gwaith yn golygu bod y bont yn cael ei lleihau i un lôn rhwng 7am a 7pm tan haf 2025.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 4 Awst 2023, mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at waith Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wrth ystyried opsiynau ar gyfer Menai. Mae'n dweud y bydd ymateb Llywodraeth Cymru yn cael ei nodi unwaith y bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn dilyn cau Pont Menai yn sydyn, archwiliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith faterion yn ymwneud â chynnal a chadw a diogelwch mewn sesiwn graffu ym mis Rhagfyr 2022 gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Ym mis Mawrth, gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith graffu hefyd ar y Dirprwy Weinidog ar yr Adolygiad Ffyrdd yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol y panel. Holodd y Pwyllgor y Dirprwy Weinidog am y penderfyniad i ofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ystyried opsiynau ar gyfer Menai.

Cododd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y mater hefyd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf a oedd yn canolbwyntio ar Ogledd Cymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.